Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 14 Gorffennaf 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.03 - 10.47 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
|
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson Lindsay Whittle (yn lle Bethan Jenkins) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Helen Weedon, Deisebydd Bethany Walpole, Deisebydd |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, ac roedd Lindsay Whittle AC yn dirprwyo ar ei rhan.
2 Sesiwn dystiolaeth
Atebodd y tystion gwestiynau gan y Pwyllgor.
3 Deisebau newydd
3.1 P-04-642 Achubwch Brosiect Filter - Ymgyrch a Sefydlwyd i Atal Pobl Ifanc Rhag Ysmygu ac i'w Helpu i Roi'r Gorau Iddi
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo roi ystyriaeth lawn i'r cynnig am gyllid a'i fod yn rhoi gwybod y canlyniad i'r Pwyllgor.
3.2 P-04-634 Rhoi terfyn ar wahaniaethu yn erbyn plant heb grefydd mewn ysgolion
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog wneud sylwadau pellach ar lythyr y deisebydd.
3.3 P-04-644 Dyfodol Addysg Bellach
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y canlynol:
3.4 P-04-646 Deiseb yn erbyn canllawiau anstatudol yng Nghymru ar gyfer awdurdodau lleol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo:
· sicrhau y caiff sylwadau manwl y deisebydd eu hystyried wrth ddatblygu canllawiau diwygiedig; a
· rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor a'r deisebydd am ddatblygu canllawiau terfynol.
3.5 P-04-647 Newid yr oedran y mae'n rhaid talu am docyn oedolyn o 16 i 18.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-04-625 Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r ddeiseb oherwydd:
4.2 P-04-537 Plannu Coed i Leihau Llifogydd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.
4.3 P-04-550 Pwerau Cynllunio
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.
4.4 P-04-623 Wella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunwyd i ofyn am ymateb gan y Gweinidog i sylwadau manwl ac ystyriol y deisebydd.
4.5 P-04-617 Stopiwch y Trosglwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i'r Sector Gwirfoddol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.
4.6 P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.
4.7 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.
4.8 P-04-514 Dylid adeiladu gorsaf bŵer sy'n defnyddio glo glân o Gymru a/neu gorsaf ynni adnewyddadwy yn hytrach na gorsaf niwclear arfaethedig Wylfa B ar Ynys Môn.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· gau'r ddeiseb gan fod llawer o sylwadau'r deisebydd yn ymwneud a materion heb eu datganoli; a
· drwy wneud hynny, dwyn sylwadau pellach y deisebydd i sylw'r Gweinidog.
4.9 P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i anfon sylwadau'r deisebydd at y Gweinidog a chau'r ddeiseb.
4.10 P-04-539 Achub y Gyfnewidfa Lo
Trafododd yr Aelodau eu hymweliad â'r Gyfnewidfa Lo bythefnos yn gynharach a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog am ei barn ar sylwadau Mr Avent ac a oes unrhyw ddatblygiadau eraill i'w nodi.
4.11 P-04-556 Na i gau Cyffordd 41
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn:
4.12 P-04-578 Gwaith Gostegu Sŵn ar yr M4, i’r Gorllewin o Gyffordd 32
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ofyn i'r Gweinidog a fyddai'n bosibl ailwirio'r lefelau sŵn yn nhŷ'r deisebydd er mwyn sicrhau nad ydynt wedi cynyddu ers eu profi ddiwethaf.
4.13 P-04-599 Effaith Ardrethi Domestig ar Lety Hunan Arlwyo
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am ei barn ar sylwadau pellach y deisebydd, yn arbennig p'un a roddir ystyriaeth i sicrhau newidiadau'n ôlweithredol, os yw'r dystiolaeth yn gwarantu hynny.
4.14 P-04-581 Gwrthwynebu’r toriadau yn y ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Saesneg fel Iaith Ychwanegol
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd ar ymateb y Gweinidog.
4.15 P-04-399 Arferion Lladd Anifeiliaid
Gweler y cam gweithredu y cytunwyd arno o dan eitem 4.16.
4.16 P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai
Trafodwyd y ddeiseb hon ynghyd â'r ddeiseb flaenorol. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
· ofyn i'r Dirprwy Weinidog roi gwybod i'r Pwyllgor unwaith y bydd wedi adolygu safbwynt Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm; ac
· aros am farn y deisebwyr ar ymateb y Gweinidog.
4.17 P-04-552 Diogelu Plant
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
Derbyniwyd y cynnig.
6 Trafod tystiolaeth lafar o dan eitem 2 ar yr agenda.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth gynharach.
7 Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Trafododd y Pwyllgor y cynnydd ar adolygu'r system ddeisebau.